Esther 6

Mordecai'n cael ei anrhydeddu

1Y noson honno roedd y brenin yn methu cysgu. Felly dyma fe'n galw am y sgrôl oedd â hanes digwyddiadau pwysig yr Ymerodraeth ynddi, a cafodd ei darllen iddo. 2A dyma nhw'n dod at y cofnod fod Mordecai wedi rhoi gwybod am y cynllwyn i ladd y brenin Ahasferus, gan y ddau was oedd yn gwarchod drws ystafell y brenin, sef Bigthan a Teresh.

3Dyma'r brenin yn gofyn, “Beth gafodd ei wneud i anrhydeddu Mordecai am beth wnaeth e?” A dyma gweision y brenin yn ateb, “Dim byd o gwbl.”

4Y funud honno roedd Haman wedi cyrraedd y cyntedd tu allan i'r neuadd frenhinol, i awgrymu i'r brenin y dylai Mordecai gael ei grogi ar y crocbren oedd wedi ei adeiladu iddo. A dyma'r brenin yn gofyn, “Pwy sydd yn y cyntedd tu allan?”

5“Haman sydd yna,” meddai'r gweision.

A dyma'r brenin yn dweud, “Gadewch iddo ddod i mewn.”

6Pan ddaeth Haman i mewn, dyma'r brenin yn gofyn iddo, “Beth ddylid ei wneud os ydy'r brenin wir eisiau anrhydeddu rhywun?” Roedd Haman yn meddwl mai fe oedd yr un oedd y brenin eisiau ei anrhydeddu, 7felly dyma fe'n dweud, “Os ydy'r brenin am anrhydeddu rhywun, 8dylai ei arwisgo gyda mantell frenhinol, a'i osod ar geffyl mae'r brenin ei hun wedi ei farchogaeth – un sy'n gwisgo arwyddlun y frenhiniaeth ar ei dalcen. 9Dylai un o brif swyddogion y brenin gymryd y fantell a'r ceffyl ac arwisgo'r dyn mae'r brenin am ei anrhydeddu, ei roi i farchogaeth ar y ceffyl, a'i arwain drwy sgwâr y ddinas. A dylid cyhoeddi o'i flaen, ‘Dyma sy'n cael ei wneud i'r dyn mae'r brenin am ei anrhydeddu!’”

10Felly dyma'r brenin yn dweud wrth Haman, “Iawn, dos ar frys. Cymer di'r fantell a'r ceffyl, a gwna hynny i Mordecai yr Iddew sy'n eistedd yn y llys brenhinol. Gwna bopeth yn union fel gwnest ti ddisgrifio.”

11Felly dyma Haman yn cymryd y fantell a'r ceffyl ac yn arwisgo Mordecai. Wedyn dyma fe'n ei arwain ar y march drwy ganol y ddinas, yn cyhoeddi o'i flaen, “Dyma sy'n cael ei wneud i'r dyn mae'r brenin am ei anrhydeddu!”

12Ar ôl hyn i gyd, aeth Mordecai yn ôl i'r llys brenhinol, a dyma Haman yn brysio adre yn hollol ddigalon yn cuddio'i ben mewn cywilydd. 13Yna aeth i ddweud beth oedd wedi digwydd wrth ei wraig a'i ffrindiau i gyd. A dyma'r cynghorwyr a'i wraig Seresh yn ymateb, “Mae ar ben arnat ti os mai Iddew ydy'r Mordecai yma wyt ti wedi dechrau syrthio o'i flaen, does gen ti ddim gobaith!”

Ail wledd Esther

14Tra roedden nhw'n dal i siarad gydag e, dyma weision y brenin yn cyrraedd ac yn mynd â Haman ar frys i'r wledd roedd Esther wedi ei pharatoi.

Copyright information for CYM